Fire in the Mountain IV - Tan Yn Y Mynydd 2014
FIRE IN THE MOUNTAIN 2014
IS NOW SOLD OUT
We warmed you that it would, and it has.
There are no more spaces for tents. No more spaces for poohs. No more spaces for cars. No spaces for blaggers and last minute sheenanigans. Done. Finished.
Please please please don't come if you don't have a ticket. That would just be bad, and all the volunteers organisers will get stressed out, and we could be in a situation where we can't do the whole festival again.
Local Day Tickets
We have a limited amount of DAY VISITOR (no camping) Tickets available on the door for people who live locally. These are you people who live locally, who can come and enjoy their local small festival.
London Coach
There are a few places left on the London Coach. Please email info@fireinthemountain.co.uk to reserve.
FOR WELSH LANGUAGE, SEE BOTTOM OF PAGE.
Headliners
- The Foghorn Stringband (USA)
- Martha Tilston and the Scientists (England)
- Fernhill (Wales)
- John Smith (England)
- Gulp (Wales)
- The Flatville Aces
- Sheelanagig
- Aaron Jonah Lewis (USA)
- The Gentle Good (Cymru)
- Mik Artistik's Ego Trip (T'North)
- Abdoulaye Samb & Minnjiraby (Senegal)
More Bands!
- Kidnap Alice
- Cut A Shine
- Stomping Dave
- Bristol Afrobeat Project (BAP)
- Mamadou and the Super Libidor Band
- The Nudie Suits
- Pibau Planed
- The Loose Moose Stringband
- Le Bayou Noir
- The Schmoozenbergs
- The Grapes' Band
- The Harlequin Dynamite Marching Band
- Matt Barton and the Carers
- Fitty Gomash
- The Ramshackle Union Band
- Catlow Sykes & Hawes
- TEYR
- Tantz
- Broken Boat
- Gia and Daisy
- Hot Rock Pilgrims
- A&E Old Time Stringband
- John Preston Tribute Band
- Barbarella's Bang Bang
- Heal the Last Stand
- Little Arrow
- Meilir
- The Keys
- Climbing Trees
- Mwnci Nel
- Brooke Sharkey
- Adam Beattie and the Consultants
- Follow the Rats
- Toucan Uke
- Theo Bard
- Dolly May
- The Relatives (London)
- Dog House Drive
- Those Bare Foot Rascals
- Pigs Foot String Band
- The Raggers
- Jo and Azpi
- Cor Y Gors
DJs
- DJ Chris Tofu
- DJ Dolphin Boy
- DJ Buirsk Von Hoedown
- DJ Molly McCarrol
Got a spare 90 seconds? Watch this!
Fire In The Mountain Festival Promo 2014 in 90" from donshades on Vimeo.
Got a longer attention span? Watch this!
Fire In The Mountain Festival Promo 2014 from donshades on Vimeo.
* Central Kitchen, Moringa Tree Coffee and Baguettes, Local Pie and Chips, African and Jamaican BBQ, Churros Stall.
* Family Activities: Storytelling, crafts, treasure hunts and much more at the Family Tent
* Acoustic Marquee (hosted by Woodburner) with hot drinks and chai + open stage for bands and jams
Departs Kings Cross St Pancras (outside the station on York Way) at 10am Sharp on Friday 30th May, arriving at the farm around 5pm
Dydd Gwener 30ain Mai – dydd Sul 1af Mehefin 2014
Gwersyllfa ar agor i’r cyhoedd o 1200 ddydd Iau 29ed Mai tan 1200 ddydd Llun 2il Mehefin
Cwmnewidion Isaf, Cnwch Coch, Aberystwyth, SY23 4LL
Gwybodaeth Tocynnau
Mae’n rhaid cael tocyn i’r ŵyl yma. Oherwydd galwad cryf am docynnau, ni ellir prynu tocynnau ar y maes. Gwnewch yn siwr eich bod wedi prynu tocynnau cyn dechrau ar eich siwrne. Bydd rhaid dangos bandiau llewys i hawlio mynediad i bob llwyfan a lleoliad.
Rydyn ni yn gwerthu tocynnau ar y wefan hon efo PayPal ( mae holl fanylion talu yn cael eu trin yn ddiogel gan PayPal. Dydyn ni ddim yn gweld rhain). Mantais y system hon yw eich bod yn talu pris y tocyn heb unrhyw gostiau ychwanegol. Yr anfantais yw ei bod hi’n system trwsgwl a rydych chi’n gorfod dilyn y cyfarwyddiadau yn fanwl i drosglwyddo'r arian yn gywir.
Pris Tocyn Penwythnos Llawn: £95
Plentyn (2-12) Penwythnos Llawn: £15
Tocyn Diwrnod dydd Gwener (Heb wersyllu): £20
Tocynnau Diwrnod dydd Sadwrn a dydd Sul: £25
Plant (0-12): Tocynnau Diwrnod am ddim
Llecyn Car: £10
Llecyn Camper Van: £40
Tocyn Bws o Kings Cross Llundain (mynd a dod): £40
Tocyn Bws o Kings Cross Llundain (un ffordd): £25
Mae tocynnau ar gael o flaen llaw o “Andy's Records”, Aberystwyth (01970 624 581). Bydd nifer bach o docynnau diwrnod ar gael o swyddfa tocynnau yr ŵyl, ond rydyn ni'n awgrymu eu prynu o flaen llaw o “Andy’s Records”.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Rydyn ni'n rhoi gwahoddiad i chi ddod i Ŵyl Werin Ryngwladol Tân Yn Y Mynydd Cwmnewidion Isaf.
Cymanfa o galonau, meddyliau a chymynedau ledled y wlad. Mi fydd bandiau a cherddorion o America, Canada, Yr Alban, Yr Iwerddon, Lloegr ac, wrth gwrs, Cymru
Hon fydd y bedwaredd flwyddyn i Tân Yn Y Mynydd ddod i Gwmnewidion Isaf, lle mae’r barcud coch yn hedfan dros hafnau gwyrddlas, gyda llwyni derw a dolydd gwyllt islaw. Yn sefyll rhwng mynyddoedd urddasol Elenydd a glannau hardd bae Ceredigion, lle mae ysgyfarnogod a cheffylau yn pori, ac ysbrydion natur yn ymddangos a diflannu.
Ymunwch â ni i ddod â’r wlad hynafol hon yn fyw eto mewn cymanfa hudolus o galonnau, sylwadau a cherddoriaeth.
Cerddoriaeth a Gweithgareddau
Y Bandiau Cyntaf i gael eu cyhoeddi ....
Martha Tilston and the Scientists (Dydd Sadwrn)
Sheelanagig (Dydd Sadwrn)
John Smith (Dydd Sul)
The Flatville Aces (Cajun)
Aaron Jonah Lewis' Corn Potato Stringband (America)
Cut A Shine Barn Dance
Fitty Gomash (Briste)
Loose Moose Stringband (Lerpwl)
Stomping Dave
Atyniadau:
Poptai llosgi-pren yn paratoi pizza a bara ffres.
Cegin Ganolig, Coffi “Moringa Tree”, Baguettes, Pastai a Sglodion Lleol, BBQ Affricanaidd a Jamaicaidd, Stondin Churros
Adran Iacháu, Sawna, Plymbwll a nofio yn yr afon, a thriniaethau cyfoes.
Cwrw a Seidr Lleol o’r Bar Sgubor (BarnBar)
Gweithdai yn y “Trad Academy”
Gweithgareddau Plant: Chwedleua, celfyddydau, helfau trysorau a llawer iawn mwy yn y Babell Teulu.
Peth Wmbredd o Sesiynau Jam!
Pabell Acwstig efo diodydd poeth a chai + llwyfan agored i bandiau a jamio
Diwrnod Diwylliant Cymreig
Bydd dydd Sul 1af mis Mehefin yn canolbwyntio ar Ddiwylliant, Cerddoriaeth, Celf a Bwydydd Cymreig. Marchnad Celf a Chrefftau Lleol 10am – 2pm yn y buarth Prif berfformiadiau gan y gorau o’r bandiau Gwerin Cymreig.
Galwad am stondinau marchnad ddydd Sul 1af Mehefin 2014
Rydyn ni’n chwilio am grefftwyr a chynhyrchwyr bwydydd lleol i redeg stondinau yn ein marchnad ar ddydd Sul 1af Mehefin o 10am –2pm. Mae Tân Yn Y Mynydd yn sefydliad cofrestredig nid-er-elw efo’r bwriad o greu wŷl cynaladwy er mwyn adnewyddu y fferm, lle y'i cynhelir a chefnogi busnesau lleol.
Mae pob un o’n trefnwyr yn wirfoddolwyr. Cost y stondin yw £25 (sef yr un pris â thocyn diwrnod i’r ŵyl – felly rydych chi’n cael diwrnod i’r Brenin ac yn gwneud arian yr un pryd), buaswn ni wrth ein boddau yn clywed oddi wrthych chi os oes diddordeb gennych mewn rhedeg stondin. Buasem hefyd yn falch o gael gwybod os oes gennych ddiddordeb mewn rhedeg cwrs creffau ar y diwrnod. info@fireinthemountain.co.uk
Gweithdai
Mae rhaglen o weithdai AM DDIM yn cymryd lle mewn "yurt" bendigedig 20 troedfedd gron yn y Del. Mae’r cyrsiau wedi eu llywyddu a'u trefnu gan “The Trad Academy” (www.tradacademy.co.uk), ac yn dangos gweithdai Cerddoriaeth ar nifer helaeth o offerynau, Dawns, Cân, sesiynau Jamio, Yoga, ac yn y blaen. Mae nifer o’r athrawon yn perfformio yn yr ŵyl.
Gweler www.tradacademy.co.uk
Gwirfoloddwyr – Mentrwch!
Mae Tân Yn Y Mynydd yn sefydliad nid-er-elw cofrestredig , sydd yn cael ei rhedeg gan gymuned o wirfoddolwyr. Ein nod yw creu gŵyl gynaladwy flynyddol, a chodi arian er mwyn adnewyddu fferm bendigedig Cwmnewidion Isaf. Mae bywd a diod am ddim i’r gwirfoddolwyr yn ystod eu diwrnod o waith .
Rydan ni’n chwilio am bobl i fentro ac ymuno efo un o’r tîmau canlynol: Cynnyrch, Maes, Bwyd, Diod, Stiwardio, Addurno, ayyb. Yn achos rhai swyddi mae'n orfodol i weithio dros yr ŵyl, ac yn rhai eraill o flaen llaw a chwedyn (ond nid yn ystod yr ŵyl). Os hoffwch chi ymuno, neu os oes gennych chi grefftiau arbennig i'w cynnig, gyrrwch ebost i volunteer@fireinthemountain.co.uk.
Bwyd & Diod
Rydan ni’n cynnig y bwyd gorau yn y cyffiniau – os oes modd defnyddio cynhwysion lleol, dyna be wnawn ni. Bydd Caffi “Moringa Tree” yn y prif maes campio yn gwerthu teisennau, baguettes a choffi go iawn. Ymunwch â ni yn y Gegin Ganolig am brydiau swmpus. Defnyddiwch siop leol pastai a stwnsh, o dan nawdd Dilch. Bydd pizza, bara a theisennau ffres trwy’r dydd, wedi cael eu coginio yn ein poptai traddodiadol. Mae’r bwyd i gyd yn rhesymol i'w brynu ac o ffynonellau moesol, efo’r lapio lleiaf. Rydyn ni’n erfyn arnoch i fwyta’r bywd a werthir ar y maes, er mwyn torri lawr ar fwyd a ddygir i'r maes ac ar wastraf.
Mae dewis gwych o gwrw a seidr lleol, sydd yn gwella bob blywddyn fel rydyn ni’n chwilio am y diodydd gorau. Gwnaethpwyd y seidr yn ôl y dymuniad gan http://www.welshmountaincider.com/. Rydyn ni hefyd yn gwerthu detholiad o Gwrw Sinsir, Ffis Ysgawen a Medd.
Edrychwch allan am “Sipping the Velvet Speakeasy” fydd yn gwerthu trwythau a choctels.
Cŵn
Rydyn ni’n croesawu cŵn, ond mae’n rhaid iddyn nhw aros ar denyn ac o dan reolaeth bob amser. Rhaid codi baw yn syth a chael gwared ohono yn gyfrifol yn yr ardal arbennig.
Bydd ‘na nifer o anifeiliad, plant a chŵn eraill yn yr ŵyl a rydyn ni eisiau i bawb deimlo’n ddiogel. Mae ‘na ddigonedd o ardaloedd cerdded ardderchog yn ymyl y maes. Rhybudd: byddwn ni'n gofyn i chi adael yr ŵyl os nad ydych chi yn parchu’r rheolau hyn, a dydyn ni ddim eisiau gorfod gwneud hynny. Yn olaf, o achos anifeiliad yn y caeau cyfagos, rydyn ni’n awgrymu eich bod yn wyliadwrus ar hyd yr adeg; dydy ffermwyr ddim yn hoffi unrhyw nam i'w hanifeiliad.
Yr Anabl
Gadwech i ni wybod os oes gennych unrhyw anghenion arbenning a bydden ni'n falch i helpu. Mae’r rhan fywaf o’r maes ar dir gwastad gyda rhai tiroedd yn troi’n llithrig os yn fwdlyd.
Ymdrechwn i wella’r tir o dan yr amgylchiadau hyn. Mae’r buarth wrth y prif lwyfan braidd yn garregog ond dal yn addas i gadair olwyn. Mae’r “Dingly Dell”, yr Adran Iacháu a’r Babell Weithdy Workshop tent i lawr llwybr ar ogwydd, felly mae’n well osgoi hwn os oes mwd. Bydd stiwardau ar gael i helpu efo gwybodaeth a chymorth. Mae’r safleoedd molchi a'r toiledau i gyd yn hawdd eu cyrraedd.
Gwersyllu
Mae ‘na ddwy wersyllfa: Gwersyllfa Dawel a Gwersyllfa Deulu yn y prif gae, wrth ymyl y maes parcio, a Gwersyllfa Anturiaethus (heb fod ymhell o'r prif gât). Mae’r ddwy wersyllfa ar agor i’r cyhoedd am 12.00 ddydd Iau 29ed Mai, ac yn cau i’r cyhoedd ar ddydd llun 2il Mehefin am 12.00.
Llogwch Babell!
Pabell draddodidaol ganfas “Bell” ar gael i'w llogi (4 person). Bydd y pebyll i fyny yn barod i'ch croesawi chi yn un o’r caeau hardd wrth lan yr afon, efo cysgod llawn a mynediad i’r adnoddau.
Dydy dillad gwely, na matresi ddim yn gynwysiedig. Mae’r pebyll ar gael o 12.00 dydd Iau 29ed Mai hyd at 12.00 dydd Llun 2il Mehefin.
Pris llogi heb ei benderfynu eto. Am fwy o wybodaeth ac i fwcio info@fireinthemountain.co.uk
Mae’n bosib llogi’r pebyll am gyfnod ychwanegol yn syth ar ôl yr ŵyl. Gofynwch am fwy o fanylion info@fireinthemountain.co.uk
Teuluoedd & Phlant
Rydyn ni’n croesawi plant a babis i’r ŵyl. Mae ‘na bris rhatach am y penwythnos llawn i blant 2 - 12, mae plant 13 ac yn hŷn yn talu'r pris llawn. Dydy babis yn talu dim. Mae plant (0-12) yn cael mynediad am ddim yng nghwmni oedolion sy'n berchen Tocyn Diwrnod.
Bydd ‘na Babell Teulu yn y brif wersyllfa yn rhedeg llwyth o weithgareddau yn canolbwyntio ar chwedlau canoloesol Y Mabinogion. Bydd ‘na hefyd gerddoriaeth, helfau trysor, crefftwaith, hwyl a spri. Bydd y gweithgareddau yn cyrraedd uchafbwynt amser cinio canol dydd ar ddydd Sul, efo perfformiad arbennig. Mae plant 0-8 angen oedolyn efo nhw yn y Babell Deulu – nid yw’n crèche!
Mae Tân Yn Y Mynydd yng nghanol nifer helaeth o lefydd i'w darganfod - llefydd agored hardd, coedwigoedd ac afonydd, a digonedd o anifeiliad , gan gynnwys ceffylau, moch, ieir a gwyddau.
Parodrwydd
Dydy hwn ddim yn ŵyl babell "pop up" a chan o Carling: mae’r fferm mewn llecyn anghysbell yng Nghanol Cymru, yng ngodreon Elenydd. Rydyn ni’n awgrymu dod â phabell ansawdd da sydd yn dal dŵr, rhywbeth cynnes i gysgu ynddo ac arno, esgidiau cryf sy’n nerthu'r ffêr, with ankle support dillad sydd yn dal dŵr, fflachlamp, eli haul, dillad nofio, ac offeryn.
Teithio a Pharcio
Oherwydd diffyg lle ar y safle, mae’r gost o barcio Car yn £10, a £40 i barcio Camper Van / Carafán.
Rydyn ni’n cefnogi trafnidiaeth effeithiol, ac yn noddi bysiau o Lundain a Lerpwl – ac unryw le arall os oes digon o ddidordeb. Rydyn ni hefyd eisiau annog pobl i rannu ceir a chymryd trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n hawdd rhannu car ar ein tudalen FaceBook.
Gyrrwch ebost i tickets@fireinthemounain.co.uk i fwcio eich tocyn camper van – mae llefydd yn brin a mae’n rhaid i ni gadw llygaid ar y cerbydau sy'n dod.
Bydd bysiau yn gadael bob dwy awr o Orsaf Trên Aberystwyth am £2 bob siwrne sengl.